top of page

Lads & Dads

Llesiant dynion

lads and dads.png

Rydyn ni’n grŵp i ddynion sydd am helpu ein gilydd gyda straen meddyliol a ddaw i’n rhan mewn bywyd. Ers ei sefydlu yn 2019, mae gan Lads & Dads 1,100+ o aelodau brwd erbyn hyn, gydag 11 aelod pwyllgor dibynadwy.

​

Beth bynnag yw’r broblem, mae Lads & Dads yn lle diogel i rannu. Mae ein haelodau’n cynnig cefnogaeth drwy gyngor a chyfarfodydd. Cofiwch, mae problem yn ymddangos yn llai o’i rhannu. Rydyn ni’n griw cymdeithasol, ac yn mwynhau cyfarfod yn rheolaidd i wneud pethau fel nofio yn y môr. Peidiwch â phoeni, os nad yw dŵr oer yn apelio atoch chi, rydyn ni’n trefnu teithiau cerdded rheolaidd a chyfarfodydd hefyd i apelio i fwy o’n haelodau. Rydyn ni’n chwilio am syniadau newydd bob amser, felly peidiwch â bod ofn cyflwyno syniad i’n pwyllgor. Syniad Rob Lester yw’r grŵp, wedi’i ysbrydoli gan ei brofiadau trawmatig ei hun a’i ymwybyddiaeth gynyddol o gyfraddau hunanladdiad ymysg dynion. Defnyddiodd Rob grwpiau Facebook lleol i holi am farn pobl ynghylch sefydlu grŵp llesiant meddwl i ddynion. Ar ôl derbyn sawl ymateb positif yn lleol, sefydlodd Rob Lads & Dads. Mae’r grŵp yn ei drydedd flwyddyn erbyn hyn, ac mae ganddo dros 1,100 o aelodau brwd gydag 11 o aelodau pwyllgor sy’n gweithio’n galed i sicrhau bod y grŵp yn parhau’n effeithiol. Ymunwch â ni ar ein gwefan neu cymerwch ran drwy ein grŵp Facebook.

bottom of page