Helping Kids Shine
Mae Helping Kids Shine yn darparu gwasanaethau Therapi Galwedigaethol a Therapi Lleferydd ac Iaith i blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru a thu hwnt.
Mae gan blant, pobl ifanc a theuluoedd amrywiaeth o anghenion iechyd, anghenion dysgu ychwanegol a diagnosis. Ni fydd llawer o'n teuluoedd wedi derbyn diagnosis eto, ond bydd ganddyn nhw bobl ifanc sy'n ei chael hi'n anodd ymgysylltu’n effeithiol â bywyd gartref ac yn yr ysgol. Rydyn ni’n cefnogi llawer o bobl ifanc a theuluoedd niwrowahanol (Awtistiaeth, ADHD, dyspracsig, dyslecsig ac ati) a llawer o bobl ifanc ag anableddau corfforol. Rydyn ni’n cysylltu â theuluoedd, gofalwyr proffesiynol, gweithwyr proffesiynol eraill, gwasanaethau statudol lleol, rheolwyr achosion a thimau cyfreithiol.
Cynhelir ein gwasanaethau mewn gwahanol leoliadau, er ein bod yn gwahodd pobl ifanc a'u teuluoedd i'n canolfan yn Abercynffig lle bo hynny'n bosibl. Rydyn ni hefyd yn aml yn gweithio gyda phobl ifanc a theuluoedd yn eu cartrefi, mewn ysgolion ac weithiau yn y gymuned. Rydyn ni hefyd yn cynnig cefnogaeth rithiol lle bo hynny'n briodol.