Rhaglen Seibiant i Ofalwyr
Cymorth i Ofalwyr
Mae Rhaglen Seibiant i Ofalwyr Halo yn rhoi’r cyfle i ofalwyr di-dâl gymryd rhan mewn sesiynau ymarfer, ymlacio a lles, gyda mynediad i ystafell ymarfer Halo Leisure.
Mae gweithdai therapi holistaidd sy’n canolbwyntio ar dechnegau lleihau straen yn cael eu darparu gan therapïau arobryn Eleventh House.
Mae Dietegwyr Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn helpu gyda phob agwedd ar faetheg ac yn rhoi cyngor ar ddeiet a ffordd iach o fyw.
Gallwn helpu i drefnu gofal amgen am ddim pan fyddwch chi’n cymryd rhan mewn unrhyw un o’r gweithgareddau. Mae’r gofal AM DDIM hwn yn cael ei ddarparu gan Ofalwyr De-ddwyrain Cymru yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr. Maent hefyd yn darparu gwybodaeth am hawliau gofalwyr a’r hyn y gallant eu hawlio, a pha systemau cymorth sydd i’w cael yn ardal yr awdurdod lleol.
Faint mae’n costio?
Diolch i gymorth gan grant Seibiant Gofalwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mae’r rhaglen beilot hon ar gael AM DDIM. Ond mae llefydd yn brin.
I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen neu i gymryd rhan, cysylltwch â Jess ar:
jess.jaques@haloleisure.org.uk neu 07812496038
Mae llefydd yn brin, felly peidiwch ag oedi!